Teitl y ddeiseb: Dylid cytuno ar ddeiliadaeth o 105 diwrnod, yn hytrach na 182 diwrnod, er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng busnesau llety gwyliau ac ail gartrefi. Geiriad y ddeiseb: Fel rhan o’i pholisi treth i gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru am wella’r broses o wahaniaethu rhwng lletyau gwyliau cyfreithlon wedi’u dodrefnu ac ail gartrefi. Mae’r Gorchymyn drafft, er gwaethaf y cyngor i’r gwrthwyneb a gafwyd yn ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun, yn codi lefel y ddeiliadaeth sy’n ofynnol ar gyfer ennill statws fel busnes o 70 i 182 diwrnod. Nid yw hyn o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o letyau gwyliau wedi’u dodrefnu, a fydd naill ai'n cau neu'n cael eu hailbennu fel ail gartrefi o ganlyniad i’r newid. Rydym yn cynnig trothwy o 105 diwrnod, sef cynnydd o 50 y cant, yn unol â diffiniadau Cyllid a Thollau EM.
Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol yr Hunan Arlwywyr wedi casglu tystiolaeth gan oddeutu 1,500 o fusnesau bach yng Nghymru i ddangos y canlyniadau anfwriadol niweidiol i fywoliaeth a chymunedau yng Nghymru yn sgil trothwy o 182 diwrnod. Mae’n nodi na fydd y Llywodraeth yn cyflawni ei bwriad o ran polisi, sef cyfyngu ar nifer yr ail gartrefi yng Nghymru, ond y bydd yn hytrach yn lleihau nifer y busnesau Cymraeg lleol. Mae’r adroddiad a’r dystiolaeth sy’n ategu’r ddeiseb hon i’w gweld yn https://www.pascuk.co.uk/wp-content/uploads/2022/04/UKH.WTA_.PASC-BoE-1500-080422.docx. Y Gorchymyn drafft yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022. |
Cafodd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 ( y Gorchymyn) ei osod gerbron y Senedd ar 24 Mai 2022. Daeth i rym ar 14 Mehefin 2022 a bydd yn cael effaith ymarferol o 1 Ebrill 2023.
Mae'r Gorchymyn yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988), sy’n diffinio eiddo domestig at ddibenion Rhan 3 (ardrethu annomestig) o’r Ddeddf honno. Mae adran 66(2BB) o Ddeddf 1988 yn nodi pryd na chaiff adeiladau, neu rannau hunangynhwysol o adeiladau, a gaiff eu gosod yn fasnachol am gyfnodau byr fel llety hunanarlwyo, eu hystyried yn eiddo domestig.
Mae’r Gorchymyn cynyddu nifer y diwrnodau y mae’n rhaid i eiddo gael ei osod o 70 o ddiwrnodau o leiaf i 182 o ddiwrnodau o leiaf yn ystod y 12 mis cyn yr asesiad er mwyn cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig. Mae’r Gorchymyn hefyd yn cynyddu nifer y diwrnodau y mae’n rhaid i eiddo fod ar gael i’w osod (yn ystod y flwyddyn flaenorol) ac y bwriedir iddo fod ar gael i’w osod (yn ystod y flwyddyn ddilynol) o 140 o ddiwrnodau neu ragor i 252 o ddiwrnodau neu ragor. Bydd eiddo hunanarlwyo nad yw’n bodloni’r meini prawf newydd yn cael ei ddosbarthu fel eiddo domestig a bydd yn atebol i dalu’r dreth gyngor, gan gynnwys unrhyw bremiwm cymwys. Mae’r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol felly ni fydd y meini prawf presennol yn cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw eiddo a gafodd ei asesu cyn 1 Ebrill 2023.
Yn ei ymateb i’r ymgynghoriad ar newidiadau i'r diffiniad o eiddo domestig, dywedodd Llywodraeth Cymru:
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod safbwyntiau gwahanol rhanddeiliaid ac yn parhau o'r farn y bydd yn ofynnol i eiddo hunanarlwyo gael ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn er mwyn gweithredu fel eiddo annomestig.
Ar 6 Gorffennaf 2022, trafododd y Senedd gynnig yn enw Tom Giffard AS (Ceidwadwyr) i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022. Yn y ddadl, dywedodd Mr Giffard y byddai'r cynnydd yn y trothwyon yn “… effeithio'n niweidiol iawn ar allu busnesau i weithredu yng Nghymru ac yn niweidio ein heconomi, gyda llawer o fusnesau'n cael eu gorfodi i gau.” Hefyd, tynnodd sylw at bryderon am y newidiadau o fewn y sector.
Ar gyfer Plaid Cymru, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
… rhaid peidio ag edrych ar y polisi 182 niwrnod ar ei ben ei hun. Mae'r polisi yma o 182 niwrnod yn rhan o becyn ehangach—yn yr achos yma'n benodol, y cyhoeddiad ddydd Llun am gyflwyno cyfundrefn drwyddedu statudol newydd i letyau gwyliau.
Yn ymateb ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
… rwy'n cydnabod y gallai'r meini prawf cryfach fod yn heriol i rai gweithredwyr, ond mae'n bwysig cydnabod bod tystiolaeth yn dangos bod defnydd cyfartalog eiddo hunanddarpar yn fwy na 50 y cant dros y tair blynedd cyn y pandemig. Felly, mae llawer o weithredwyr ym mhob rhan o Gymru eisoes yn bodloni'r meini prawf newydd. A chredaf ei bod yn rhesymol disgwyl i fusnesau fabwysiadu model gweithredu sy'n gwneud y defnydd gorau o'u heiddo a'r budd a ddaw yn ei sgil i gymunedau lleol.
Gwrthodwyd y cynnig i ddirymu’r Gorchymyn o 35 o bleidleisiau yn erbyn 14.
Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd gyfres o argymhellion yn dilyn ei ymchwiliad i ail gartrefi. Nododd y Pwyllgor fod y gofynion gosod cynyddol ar gyfer llety hunanarlwyo’n mynd ymhellach nag y mae llawer o’r ymatebwyr i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun wedi’i awgrymu.
Mae deiseb arall, Dylid caniatáu eithriadau i'r rheol deiliadaeth 182 diwrnod i leihau niwed i fusnesau hunanddarpar dilys yng Nghymru, yn casglu llofnodion hyd at 28 Rhagfyr 2022.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |